Rheoli Troseddwyr Rhyw a Throseddwyr Treisgar

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
 
 
Pontypridd
6SO1
£27,432 - £32,394
Llawn Amser
37
Parhaol
2

08/07/22 15:00

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli carfan o Droseddwyr Rhyw a Throseddwyr Peryglus sydd wedi'u nodi'n droseddwyr risg uchel o niwed neu'n rhai sy'n debygol o achosi niwed i ddioddefwyr yn ein cymunedau. 
Bydd y rôl yn cynnwys casglu, cydlynu a chysylltu cudd-wybodaeth, ynghyd â gweithio mewn partneriaeth i reoli risgiau, a chyfrifoldebau rheoli risgiau statudol amrywiol er mwyn rheoli troseddwyr wedi'u categoreiddio.
Gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dactegau, deddfwriaeth a phwerau, bydd deiliad y swydd yn meithrin cydberthnasau gwaith effeithiol ag asiantaethau allanol perthnasol er mwyn cyfnewid gwybodaeth, gweithio mewn partneriaeth ag adrannau ac asiantaethau eraill er mwyn sicrhau y caiff y risg o niwed a'r risg o aildroseddu eu rheoli yn rhagweithiol ac yn effeithiol.  
Bydd deiliaid y swydd yn cydgysylltu ac yn gweithredu'r trefniadau ar gyfer rhoi cyfuniad o dactegau cymorth, atal a dargyfeirio a dulliau gorfodi ar waith drwy amrywiaeth o gosbau cyfiawnder troseddol ac ymyriadau eraill.
Bydd deiliad y swydd yn meithrin ac yn nodi arferion gorau o ran rheoli troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar a bydd yn ymgysylltu â throseddwyr a nodwyd, gan gefnogi'r trefniadau rheoli sy'n bodoli eisoes. 
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yng ngorsaf Heddlu Pontypridd ac yn rheoli troseddwyr o bob rhan o Uned Reoli Sylfaenol Morgannwg Ganol
Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant statudol tra byddant yn y rôl er mwyn defnyddio system gyfrifiadurol genedlaethol ddynodedig, datgelu a defnyddio adnoddau Rheoli Risg er mwyn cyflawni'r rôl.

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon

Rhaid i'r Ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Rheoli a Chliriad Diogelwch.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.