Cynghorydd Cwnsela a Thrawma

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Adnoddau Dynol
Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant
Llangrallo
PO3
£39183-£42597
Llawn Amser
37
Parhaol
2

08/07/22 15:00

CYNGHORYDD CWNSELA A THRAWMA

Swydd wedi'i lleoli yn LLANGRALLO ym Mhen-y-bont ar Ogwr, De Cymru. 

“Mae gwaith swyddogion a staff yr heddlu yn golygu eu bod yn agored i'r mathau o ddigwyddiadau trawmatig na fyddai'r cyhoedd yn tueddu o ddod ar eu traws – ymosodiadau treisgar, marwolaethau sydyn, damweiniau ar y ffordd, llofruddiaethau, adfer cyrff ac ati, yn ogystal â'r tensiynau a'r gwrthdaro sy'n rhan anochel o blismona gweithredol.” 

Fel rhan o'r Tîm Iechyd Galwedigaethol a Llesiant amlddisgyblaethol, byddwch yn ychwanegu at y gwasanaethau cymorth cwnsela a thrawma cynhwysfawr a ddarperir i oddeutu 6,000 o swyddogion a staff yr heddlu a gyflogir gan Heddlu De Cymru.

Byddwch yn darparu gwasanaethau cwnsela a chymorth 1:1 am gyfnod cyfyngedig, ond byddwch hefyd yn cyfeirio cleientiaid at ddarparwyr cwnsela allanol ac arbenigwyr cymeradwy eraill. Byddwch yn meddu ar gymhwyster cwnsela ôl-raddedig i lefel saith neu uwch gydag o leiaf ddwy flynedd o ymarfer cwnsela dan oruchwyliaeth, gyda thros 450 o oriau o brofiad cwnsela (ar ôl cymhwyso). Byddwch yn gallu dangos bod eich ymarfer wedi cael ei oruchwylio yn unol â Chanllawiau Moesegol BACP, BPS neu gorff proffesiynol tebyg.

Byddwch yn deall yr ymateb dynol i straen a thrawma, bydd gennych wybodaeth weithredol am ymyriadau ar gyfer Digwyddiadau Ôl-drawmatig, a byddwch hefyd yn barod i gwblhau hyfforddiant pellach yn y maes hwn.

Byddwch hefyd yn hyderus i ddatblygu, paratoi a chyflwyno cyflwyniadau electronig i staff ar bob lefel o fewn Heddlu De Cymru.

Gan y byddwch yn cefnogi plismona gweithredol, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i'w gilydd. Byddwch yn hapus yn gweithio ar eich pen eich hun ac yn gallu ymateb i flaenoriaethau newidiol ar fyr rybudd.  Byddwch yn gweithio ar eich pen eich hun ac yn agored i effeithiau trawma ymhlith swyddogion yr heddlu a disgrifiadau o ddigwyddiadau sy'n gofyn am wydnwch personol a goruchwyliaeth glinigol.

Rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn a'ch cerbyd eich hun gan y gall fod angen i chi fynd i sawl lleoliad ledled ardal Heddlu De Cymru.

Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithwyr rhan-amser yn amodol ar ofynion y busnes.

Os yw eich swydd bresennol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni dwy flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Os ydych yn rhan o ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol sy'n dal i fynd rhagddo, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.

Os hoffech drafod y rôl hon ymhellach, cysylltwch ag un o'r Cwnselwyr yn GM-CounsellingandTraumaServices@south-wales.police.uk.

Mae proffil y rôl hefyd yn cynnwys nodyn esboniadol “Diwrnod ym mywyd” a ddylai esbonio mwy am y rôl gyffrous hon.

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.