Swyddog Rheoli Achosion

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Safonau Proffesiynol
Uned Rheoli Achosion
Tŷ Richard Thomas
SO12
£30,420-£35,307
Llawn Amser
37
Parhaol
2

08/07/22 15:00

Mae'r Adran Safonau Proffesiynol yn delio â chwynion gan y cyhoedd a materion mewnol yn ymwneud ag ymddygiad ym maes plismona.

Mae cyfleoedd wedi codi ar gyfer dau Swyddog Rheoli Achosion parhaol.

·         Noder, swydd rhan-amser yw un o'r swyddi gwag (3 diwrnod / 22 awr), a swydd llawn amser yw'r llall.

·         Gofynnir i ymgeiswyr nodi ar eu ffurflen gais a ydynt yn gwneud cais am y swydd llawn amser yn unig, y swydd rhan-amser yn unig, neu a fyddent yn fodlon derbyn y naill swydd neu'r llall os byddant yn llwyddiannus.

Mae gan Swyddogion Rheoli Achosion amrywiaeth eang o ddyletswyddau sy'n cynnwys ymchwilio i honiadau cymhleth a sensitif yn erbyn yr heddlu. Hefyd, byddant yn cysylltu ag aelodau o'r gymuned ac aelodau o wasanaeth yr heddlu i gadarnhau'r ffeithiau a cheisio datrys materion. Mae elfennau sylfaenol eraill o waith Swyddogion Rheoli Achosion yn cynnwys gweinyddu achosion a ddyrannwyd i adrannau eraill o Heddlu De Cymru, gan gynghori ar faterion pan fyddant yn codi, ymdrin â nhw a'u datrys.

Oherwydd amrywiaeth eang dyletswyddau Swyddogion Rheoli Achosion, cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â'r adran gan ddefnyddio'r manylion isod i gael rhagor o wybodaeth.

Mae sylw i fanylder, y gallu i gymhwyso canllawiau statudol yn ddiwyg a'r gallu i reoli llwyth gwaith cymhleth a heriol yn rhinweddau allweddol ar gyfer Swyddogion Rheoli Achosion. Hefyd, ystyrir bod safon uchel o waith ysgrifenedig a'r gallu i weithio'n hyblyg fel rhan o dîm prysur (ond cefnogol) yn hanfodol.

Mae'r rôl llawn amser yn addas i weithwyr rhan-amser/rhannu swydd.

Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Rheoli a Chliriad Diogelwch.

Os yw eich swydd bresennol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni dwy flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad yr Adran Safonau Proffesiynol ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon

I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â steve.jones8@south-wales.police.uk

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.