Swyddog Gorfodaeth Camera (Beiciwr Modur)
06/07/22 15:00
Teitl Swydd: Swyddog Gorfodaeth Camera (Beiciwr Modur),
Swydd: Parhaol Un swydd llawn amser ac un swydd rhan amser (18.5 awr, pro-rata).
Lleoliad:Swydd llawn amser yn ardal Abertawe/Castell-nedd gan deithio ledled ardal Plismona De Cymru yn rheolaidd.
Swydd rhan amser yn Nhrefforest, Pontypridd gan deithio ledled ardal Plismona De Cymru yn rheolaidd.
Cyflog Cychwynnol: £21,135 - £23,406 ynghyd â thaliadau ychwanegol (pro-rata i'r swydd rhan amser), lwfans sifftiau o 14% a thaliad ychwanegol o 12.5% am weithio ar benwythnosau.
Gradd: SC4
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer un swydd llawn amser ac un swydd rhan amser yn yr Uned Lleihau Anafiadau GanBwyll o fewn Heddlu De Cymru. Bydd y Swyddog Lleihau Anafiadau (CRO) yn canfod troseddau'n ymwneud â chyflymder, ffonau symudol, gwregysau diogelwch a throseddau eraill yn ymwneud â gyrru mewn lleoliadau gorfodi GanBwyll ar feic modur.
Bydd deiliad y swydd llawn amser wedi'i leoli mewn gorsaf heddlu yn ardal Abertawe / Castell-nedd ond bydd disgwyl iddo deithio ledled ardal yr Heddlu yn rheolaidd a/neu'n achlysurol ar draws ffiniau rhanbarthol yr Heddlu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio patrwm sifft penodedig, a fydd yn cynnwys gweithio ar benwythnosau.
Bydd deiliad y swydd rhan amser wedi'i leoli yn Nhrefforest, Pontypridd ond bydd disgwyl iddo deithio ledled ardal yr Heddlu yn rheolaidd a/neu'n achlysurol ar draws ffiniau rhanbarthol yr Heddlu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio patrwm sifft penodedig, a fydd yn cynnwys gweithio ar benwythnosau.
Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn yn y DU.
Rhaid meddu ar drwydded beic modur lawn yn y DU yn ogystal â phrofiad o ddwy flynedd o reidio o leiaf. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd reidio a defnyddio beic modur mawr, sy'n pwyso tua 250kg.
Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau asesiad beic modur yn yr Uned Hyfforddi Gyrwyr.
Nid yw'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Recriwtio.
Os yw eich swydd bresennol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni dwy flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.
Os ydych yn rhan o ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol sy'n dal i fynd rhagddo, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rhingyll Kyle Smith at 01443 660460.
Mewnol 86 330.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.