Swyddog Cymorth Prosiect Rheoli Mynediad Ystadau Dros Dro
08/07/22 15:00
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Swyddog Cymorth Prosiect Rheoli Mynediad Ystadau Dros Dro – mae contract dros dro ar gael am gyfnod o 12 mis gyda'r posibilrwydd o estyniad, ar gyfer Uwch Swyddog Cymorth Prosiect yn yr Adran Ystadau ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol a phrosiect rhagorol gyda lefel uchel o sgiliau cyfrifiadurol, wrth gefnogi prosiectau Rheoli Mynediad ledled yr Heddlu a phrosiectau Teledu Cylch Cyfyng.
i gefnogi'r Swyddog Cymorth Prosiect -
Yn ogystal â pharatoi dogfennau yn adrodd ar brosiectau, paratoi cyflwyniadau a chymryd cyfrifoldeb am reoli rhannau penodol o'r prosiect, bydd disgwyl i chi gydgysylltu â chontractwyr a'u cyfarfod ar safleoedd Heddlu De Cymru. Mae trwydded yrru gyfredol yn angenrheidiol.
Hoffem glywed gennych os gallwch ddangos sgiliau trefnu gwych a'r gallu i weithio'n broffesiynol o dan bwysau.
Wedi ei leoli yn y Swyddfa Ystadau, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o'r Tîm Ystadau a Chyfleusterau sydd hefyd yn darparu amrywiaeth eang o swyddogaethau gan gynnwys cymorth yn ymwneud ag Adnoddau Dynol, Cyllid/Cyllidebau, Iechyd a Diogelwch, Cydymffurfiaeth a Rheoli Eiddo.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud y canlynol:
- Rhoi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac yn electronig, ar feysydd gwaith cysylltiedig gan ddilyn gweithdrefnau safonol
- Ymchwilio i broblem(au)/mater(ion) a darparu ateb(ion) priodol
- Rhoi digon o gymorth i ddefnyddwyr yn ôl y cyfarwyddyd
- Gall gynnwys archwilio ac adolygu sefyllfaoedd o ran cydymffurfio
- Gall gynnwys rhyngweithio â grwpiau cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd a darparu gwybodaeth iddynt yn rhagweithiol
- Gall gynnwys cymryd camau gweithredu priodol a/neu roi cyngor ar hynny o fewn y cylch gwaith
Gall gynnwys ymateb i ymholiadau a uwchgyfeirir gan aelodau'r cyhoedd
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel MV/SC.
Mae'r swydd wag hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithio rhan amser.
Os yw eich swydd bresennol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni dwy flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad yr Adran Safonau Proffesiynol ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Trisha Harris, Rheolwr Ystadau a Chyfleusterau ar 07725 017833
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.