Gorychwyliwr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol
Canolfan Gwasanaeth Cyhoeddus
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
SO12
£29,793 - £34,578
Llawn Amser
37
Parhaol
2

12/07/22 15:00

Gorychwyliwr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae swydd wag wedi codi ar gyfer goruchwyliwr yng Nghanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd ym Mhencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i weithio mewn Ystafell Rheoli Achosion Brys lle yr ymdrinnir â galwadau 999 brys a galwadau 101 nad ydynt yn rhai brys gan y cyhoedd.

Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig a brwdfrydig sy'n gallu gweithio dan bwysau a goruchwylio sifft, sy'n gweithio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Y rôl yw cefnogi Rheolwr Sifftiau'r Tîm Gwasanaethau Cyhoeddus i reoli galwadau a digwyddiadau yn effeithiol ac unrhyw brosesau cysylltiedig.

Y raddfa gyflog yw SO1/SO2, yn dechrau ar £30,420, ynghyd â lwfans sifft o 20% a thaliadau ychwanegol am weithio penwythnosau.

Mae'r rolau yn rhai llawn amser ac maent wedi'u lleoli yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, Pencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, bydd Cyfleoedd Gweithio Rhan Amser/Rhannu Swydd yn cael eu hystyried.

  • Mae Heddlu De Cymru yn falch o'n Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, Canolfan sy'n rhoi cymunedau De Cymru wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Bydd ein staff, sydd wedi'u hyfforddi i safon uchel, yn ateb ac yn ymateb i alwadau brys, galwadau nad ydynt yn rhai brys a chysylltiadau digidol.   Mae ein canolfan yn delio â mwy na 700,000 o alwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys a 175,000 o gysylltiadau digidol gan y cyhoedd bob blwyddyn.
  • Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi cymorth i swyddogion gweithredol drwy negeseuon radio.
  • Mae ein staff yn Swyddogion Datrys Cysylltiadau (Swyddogion sy'n Delio â Galwadau) ac yn Swyddogion Risg a Datrys Digwyddiadau (Swyddogion sy'n Delio â Galwadau ac sy'n Derbyn a Throsglwyddo Gwybodaeth)
  •  Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a dyma'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Heddlu De Cymru.
  • Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n gyfrifol am leoli pob swyddog yr heddlu yn ardal yr heddlu. Y Ganolfan yw'r cam rheoli gweithredol cyntaf ar gyfer pob digwyddiad mawr yn yr ardal.
  • Gall ein staff gael dylanwad cadarnhaol ar y profiad cyffredinol y mae pobl yn ei gael wrth gael gwasanaeth a ddarperir gan Heddlu De Cymru.
  • Nid dim ond aelodau o'r cyhoedd y mae ein staff yn siarad â nhw. Rydym hefyd yn cysylltu â'r gwasanaethau Tân ac Ambiwlans, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Priffyrdd, Heddluoedd eraill a llawer mwy.

 

Rôl y Goruchwyliwr yw:

 

  • Cefnogi Rheolwr Sifftiau'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus i reoli adnoddau'n effeithiol
  • Cefnogi Rheolwr Digwyddiadau'r Heddlu yn ystod digwyddiadau critigol neu ddigwyddiadau a allai fod yn gritigol er mwyn sicrhau diogelwch pawb a chyfrannu at ddatrys digwyddiadau yn amserol
  • Monitro ac adolygu digwyddiadau sy'n mynd rhagddynt a chefnogi'r staff i sicrhau ymatebion effeithiol ac effeithlon yn unol â chanllawiau perfformiad penodol
  • Gweithredu yn unol â'r holl fframweithiau cyfreithiol, egwyddorion gweithio allweddol, polisïau a chanllawiau eraill sy'n berthnasol i'r rôl er mwyn cynnal arferion gwaith effeithiol, diogel a chyfreithiol
  • Bod yn gyfrifol am nifer o staff, gan sicrhau bod eu llesiant, eu perfformiad a'u datblygiad yn cael eu monitro'n rheolaidd
  • Bod yn ymwybodol yn weithredol a darparu'r gwasanaeth mwyaf effeithiol i'n cymunedau
  • Cydgysylltu â Swyddogion yr Heddlu, Staff yr Heddlu, y Cyhoedd, Sefydliadau Allanol, Asiantaethau a Phartneriaethau
  • Rhoi cyngor i aelodau o'r cyhoedd, gan gynnwys materion wedi'u huwchgyfeirio
  • Archwilio gwaith staff y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, gan nodi anghenion hyfforddi a datblygu unigolion neu dimau er mwyn rhoi adborth hyfforddi a pherfformiad priodol
  • Mabwysiadu meddylfryd gwelliant parhaus i wella'r modd y darperir gwasanaethau
  • Ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau

 

 

Patrwm Sifft

Bydd yn ofynnol i chi weithio patrwm sifft, sy'n cynnwys gweithio cyfuniad o sifftiau wyth a deg awr dros gyfnod 24/7 am chwe diwrnod a fydd yn cynnwys sifftiau yn y bore, yn y prynhawn a gyda'r nos, wedyn pedwar diwrnod seibiant. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i chi weithio ar ddyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn, e.e. Nos Galan

 

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at Lefel Fetio Recriwtio

 

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill

 

Os ydych yn rhan o ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol sy'n dal i fynd rhagddo, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr Sifftiau'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ar 016565 655555 estyniad 49090

 

 

Noder – Archwiliadau Meddygol

Gwahoddir ymgeiswyr i gwblhau holiadur meddygol, a gaiff ei drafod o bosibl, er mwyn nodi unrhyw faterion a all atal penodiad oherwydd risg i'r ymgeisydd neu unrhyw un sy'n defnyddio gwasanaeth Heddlu De Cymru. Yn ogystal, bydd prawf clyw yn cael ei gwblhau at ddibenion goruchwylio iechyd.

 

 

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.