Swyddog Cymorth y Dadansoddwr Data Partneriaeth
11/07/22 12:00
TEITL SWYDD: Swyddog Cymorth y Dadansoddwr Data Partneriaeth
GRADD: 6/SO1
LLEOLIAD: Pencadlys Pen-y-bont ar Ogwr (ond mae trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth ar waith ar hyn o bryd).
ORIAU: 37 awr yr wythnos – llawn amser
CYFNOD: Contract llawn amser neu secondiad am 24 mis
FETIO: Lefel MV/SC
AR AGOR I: 20.06.2022 - 11.07.2022 12PM
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi tîm Comisiynydd yr Heddlu drwy ddarparu cymorth dadansoddi mewn ystod eang o feysydd busnes.
Gan weithio i'r Prif Ddadansoddwr, bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau dadansoddi data rhagorol a bydd yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd dadansoddi data.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hunangymhelliant a bydd yn gweithio'n dda mewn tîm. Mae ystod helaeth y gofynion yn golygu bod angen rhywun amryddawn a chreadigol arnom.
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith, felly er y bydd angen teithio i Dde Cymru o bryd i'w gilydd, rydym yn croesawu ymgeiswyr o Gymru a Lloegr.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Clive Richards: clive.richards1@south-wales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.