Swyddog Gorfodaeth Camera
18/07/22 15:00
Teitl Swydd: Swyddog Gorfodaeth Camera, Graddfa 4, lwfans sifft o 14% a thaliad ychwanegol o 12.5% am weithio penwythnosau. Dwy swydd llawn amser
Swydd: Parhaol
Lleoliad:
Un swydd llawn amser yn ardal Abertawe/Castell-nedd gan deithio ledled ardal Plismona De Cymru yn rheolaidd.
Un swydd llawn amser yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gan deithio ledled ardal Plismona De Cymru yn rheolaidd.
Ar Agor o: 10 Awst 2022
Cyflog Cychwynnol: £21,135 - 23,406 yn ogystal â thaliadau ychwanegol
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer dwy swydd wag llawn amser yn Uned Lleihau Anafiadau GanBwyll o fewn Heddlu De Cymru. Bydd y Swyddog Lleihau Anafiadau (CRO) yn canfod troseddau'n ymwneud â chyflymder, ffonau symudol, gwregysau diogelwch a throseddau eraill yn ymwneud â gyrru mewn lleoliadau gorfodi GanBwyll ar fan gorfodi.
Bydd un deiliad swydd llawn amser wedi'i leoli yng ngorsaf heddlu ardal Abertawe / Castell-nedd, a bydd y swydd llawn amser arall wedi'i lleoli yng ngorsaf heddlu ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ar gyfer y ddwy rôl deithio ledled ardal yr Heddlu'n rheolaidd a/neu yn ffiniau rhanbarthol yr Heddlu yn achlysurol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio patrwm sifft penodedig, a fydd yn cynnwys gweithio ar benwythnosau.
Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn yn y DU.
Nid yw'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Recriwtio.
Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.
Os ydych yn rhan o ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol sy'n dal i fynd rhagddo, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rhingyll Kyle Smith at 01443 660460.
Mewnol 86 330.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.