Swyddog Polisi (Dioddefwyr a Bregusrwydd)
07/07/22 09:00
TEITL SWYDD: Swyddog Polisi – Dioddefwyr a Bregusrwydd
GRADD: PO 1/2 - £34,326.00 - £39,183.00
LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr. (Gweithio hyblyg ac ystwyth ar hyn o bryd)
ADRODD I: Pennaeth Strategol Dioddefwyr a Bregusrwydd
ORIAU: 37 awr yr wythnos - llawn amser
CYFNOD: Parhaol
FETIO: MV/SC
AR AGOR I: 22.06.2022 - 07.07.2022 9AM
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi gwaith Tîm Dioddefwyr a Bregusrwydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
Rydym yn chwilio am Swyddog Polisi profiadol i ymuno â thîm portffolio Dioddefwyr a Bregusrwydd; rydym yn bwriadu cynnig y swydd Swyddog Polisi ar sail barhaol. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag aelodau eraill o'r tîm er mwyn rhoi cymorth i'r Arweinydd Strategol ddatblygu polisïau a'u rhoi ar waith a chyflawni'r canlyniadau a nodwyd yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu, a Strategaethau Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Dioddefwyr a Thystion.
Bydd datblygu a chynnal cydberthnasau cryf â phartneriaid yn agwedd allweddol ar y rôl er mwyn cyflwyno ffyrdd o weithio sy'n fwy effeithiol a chydweithredol a nodi arferion gorau. Bydd y gallu i nodi cyfleoedd rhagweithiol i greu partneriaethau a chynnal cydberthnasau cadarn cryf yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn flaenoriaeth i ddeiliad y swydd.
Bydd angen i chi allu gweithio yn dda mewn tîm, bod yn hunanysgogol ac yn flaengar, yn ogystal â bod yn gyfathrebwr hyderus ac yn meddu ar sgiliau rhwydweithio a dylanwadu rhagorol. Mae'r gallu i addasu a blaenoriaethu galwadau croes, defnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar ddod o hyd i atebion, a bodloni terfynau amser yn ofynion angenrheidiol i ddeiliad y swydd.
Os ydych yn Swyddog Polisi profiadol sy'n gallu gweithio dan bwysau mewn amgylchedd prysur, ac yn gallu blaenoriaethu galwadau croes a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser, rydym yn awyddus i glywed gennych.
Wrth fod yn atebol yn uniongyrchol i Arweinydd Strategol Dioddefwyr a Bregusrwydd, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gydgysylltu'n rheolaidd ag amrywiaeth o randdeiliaid, er mwyn cefnogi gwaith y tîm, a chefnogi gwaith ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Paula Hardy: paula.hardy@south-wales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.