Gweinyddwr Cymorth Busnes Gweithredol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro
URhS Caerdydd a'r Fro - Uned Cefnogi Gweithrediadau
Bae Caerdydd
SC24
£19,149.00 - £24,156.00
Llawn Amser
37
Parhaol
2

20/07/22 15:00

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Gweinyddwr Cymorth Busnes Gweithredol yn Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus rannu ei amser rhwng dau safle ein Huned Cymorth Gweithredol yng Ngorsaf yr Heddlu Bae Caerdydd a Gorsaf Heddlu'r Barri.
Fel aelod gwerthfawr o dîm Uned Cymorth Gweithredol ein Huned Reoli Sylfaenol, byddwch yn rhoi cymorth pwysig i dimau plismona rheng flaen y brifddinas, gan ymgymryd ag amrywiaeth eang o swyddogaethau gan gynnwys rhoi cymorth ym meysydd Adnoddau Dynol, Cyllid/Cyllidebau, Iechyd a Diogelwch, Cydymffurfiaeth, Rheoli Eiddo Tystiolaethol a swyddogaethau gweinyddu cyffredinol. 
Mae'r rôl yn ddynamig ac yn amrywiol iawn, ac mae'n galw am rywun sy'n drefnus, yn cyfathrebu'n dda ac sydd â llygad craff am gywirdeb a manylion. Yn ogystal â hyn, mae angen meddu ar wybodaeth weithredol dda am raglenni Microsoft megis Word, Excel ac Outlook.


Gan weithio mewn amgylchedd amlswyddogaethol, bydd rôl y Gweinyddwr yn cynnwys y canlynol:
•    Helpu'r Arweinwyr Tîm gyda thasgau a neilltuir i'r tîm 
•    Teithio i orsafoedd yn yr Uned Reoli Sylfaenol i helpu cydweithwyr â thasgau 
•    Dod o hyd i wybodaeth a chofnodi gwybodaeth ar systemau sy'n benodol i'r heddlu
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n awyddus, sy'n frwdfrydig ac sy'n meddu ar brofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur ac fel aelod o dîm. Yn ogystal â hyn byddwch yn cael:

* Lwfans gwyliau o 24 diwrnod, yn codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
* Gweithio'n glyfar, sy'n caniatáu gweithio gartref/yn y swyddfa
* Gweithio hyblyg
* Buddiannau gwych HDC

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

 

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Samuel ar 07970163471.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.