Gweinyddwr Cymorth Busnes Gweithredol
20/07/22 15:00
Swydd ran-amser am 30 awr yr wythnos yw'r rôl, wedi'i lleoli yn yr Uned Cymorth Gweithredol yn yr adran Troseddau Arbenigol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth gweinyddol i'r Portffolio Troseddau Arbenigol, gan gynnwys clyw-deipio dogfennaeth i gefnogi digwyddiadau mawr, troseddau arbenigol a chymhleth ac ymchwiliadau sensitif eraill. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd cofnodion mewn cyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau gweinyddol cyffredinol eraill gan gynnwys prosesu archebion ac anfonebau.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel MV/SC.
Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Rebecca Thomas ar 07584 003992 neu estyniad 62461
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.