Rheolwr Prosiect

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Trosedd Arbenigol
Portffolio Troseddau Arbenigol
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
PO12
£34326 - £39183
Llawn Amser
37
Parhaol
2

18/07/22 15:00

Bydd deiliad y swydd hon yn rheoli prosiectau achredu Troseddau Arbenigol i sicrhau bod yr Heddlu'n bodloni gofynion y Rheoleiddiwr Gwyddoniaeth Fforensig yn unol â safonau ISO 15189 ac 17025.Bydd y rôl yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r Arweinwyr Technegol a chydweithredu â rhanddeiliaid ar lefel ranbarthol a chenedlaethol i gydlynu amserlen y prosiect yn effeithiol, rheoli risgiau'r prosiect a chynllunio a pharatoi adroddiadau strategol. 


Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am achrediadau ISO 17025 yr Uned Seiberdroseddu Ranbarthol a'r Uned Seiberdroseddu Fforensig Ddigidol ac achrediad ISO 15189 Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn Ne Cymru, i sicrhau bod yr holl unedau hyn, gan gynnwys y Ddalfa, yn cydymffurfio â Chodau Ymarfer ac Ymddygiad y Rheoleiddwyr Fforensig.

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.