Ymchwilydd Ariannol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Tîm Atafaelu Asedau Rhanbarthol
Pen-y-bont ar Ogwr
SO12
£29,793 - £34,578
Llawn Amser
37
Parhaol
2

29/07/22 15:00

Mae'r rôl hon yn yr Uned Troseddau Economaidd Ranbarthol, yn gyfle i gynnal ymchwiliadau ariannol rhagweithiol ac adweithiol yn ôl diffiniad Deddf Enillion Troseddau 2002, er mwyn tarfu ar weithgareddau Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol ac atafaelu asedau a gafwyd drwy ymddygiad troseddol. Byddwch hefyd yn rhoi cyngor, arweiniad a chyfarwyddyd i heddluoedd ar ddefnyddio dulliau atafaelu asedau fel adnodd rhagweithiol wrth fynd i'r afael â throseddau. 

Rhaid bod ymgeiswyr wedi'u hachredu â'r NCA hyd at lefel FIO o leiaf, neu'n barod i ymgymryd â'r rhaglen hyfforddiant Ymchwiliadau Ariannol Cenedlaethol a'i chwblhau'n llwyddiannus hyd at lefel Atafaelydd. Mae hyn yn cynnwys cadw Portffolio Datblygiad Parhaus cyfredol. 

Rhaid bod gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o ddeilio ag ymchwiliadau troseddol a meddu ar wybodaeth am ddeddfwriaeth Deddf Enillion Troseddau 2002 a'r gyfundrefn atafaelu.  Byddai gwybodaeth am Ddeddf Twyll 2006 yn ddymunol hefyd.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sy'n gweithio yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Cymru yn destun Fetio Rheoli a Chliriad Diogelwch manylach cyn dechrau'r swydd.

O ganlyniad i'r gofynion gweithredol, nid yw'r rôl hon yn addas i weithwyr rhan amser/gweithwyr sy'n rhannu swyddi.

Os yw eich swydd bresennol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni dwy flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Os ydych yn rhan o ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol sy'n dal i fynd rhagddo, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at lisa.simmonds@south-wales.police.uk neu colin.briggs2@south-wales.police.uk  

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.