Ymgyrch Cwnstabliaid Myfyrwyr Heddlu De Cymru Gorffennaf 22

Heddlu De Cymru
Swyddog Heddlu
Ledled yr Heddlu
Swyddog Heddlu
40
2

08/08/22 09:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel. 

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am fedrusrwydd, tosturi, arweinyddiaeth, blaengaredd a gwir ddymuniad i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Rydym yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ledled ardal o tua 880 milltir sgwâr o Abertawe i Ferthyr Tudful i'n prifddinas, Caerdydd. Mae'n swydd lle mae pob diwrnod yn wahanol – ac mae'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa gwerth chweil a chyffrous.

Gall y rôl fod yn un heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn a dyfeisgar, ond rydym yma i'ch cefnogi. Bydd angen i chi fod yn ymrwymedig i daith sy'n gofyn am gydbwyso gofynion academaidd a rôl newydd mewn gwasanaeth plismona 24/7. Mae'n swydd heb ei thebyg ac rydym yn chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus.

Mae bellach mwy o opsiynau nag erioed i fod yn Swyddog yr Heddlu yn #TîmHDC: 

Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA)

Prentisiaeth gradd broffesiynol tair blynedd yw hon. Ar ôl ei chwblhau, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill Gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Mae'r llwybr hwn yn golygu y cewch gyfle i ennill cyflog wrth ddysgu ac ennill gradd ar yr un pryd.

Er mwyn gwneud cais ar gyfer y PCDA, mae'n rhaid eich bod wedi ennill cymhwyster Lefel 3 (sef dau gymhwyster Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol).Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3 yn barod, cewch gyfle i wneud asesiad ar-lein yn Saesneg a Mathemateg, ac os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn symud i'r cam nesaf o'r broses gwneud cais.

Os ydych yn llwyddo ym mhob cam o'ch cais, byddwch yn dechrau ar ein llwybr tuag at PCDA.Fel Prentis, bydd angen i chi feddu ar TGAU Gradd A-C mewn Mathemateg a Saesneg, neu gymhwyster Lefel 2 cyfatebol. Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, bydd angen i chi gwblhau'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol yn ystod eich hyfforddiant i fodloni gofyniad y Cynllun Prentisiaeth. Bydd Heddlu De Cymru yn talu'r holl ffioedd cwrs sy'n gysylltiedig â'r llwybr mynediad hwn. 

Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP):
Mae'r Rhaglen Mynediad i Raddedigion ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes â gradd mewn unrhyw faes pwnc ond sydd am ymuno â'r heddlu. Mae'r rhaglen yn para am ddwy flynedd, gan gyfuno cyfleoedd dysgu ymarferol a chymhwysedd gweithredol â dysgu academaidd. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ennill Diploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Bydd yr heddlu'n talu'r holl ffioedd cwrs sy'n gysylltiedig â'r llwybr mynediad hwn.

Cyflog cychwynnol y ddau lwybr yw £21,654 a bydd yn cynyddu i £27,030 ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Pa lwybr bynnag y byddwch yn ei ddewis, bydd disgwyl i chi gyrraedd yr un lefel o gymhwysedd proffesiynol erbyn diwedd eich cyfnod prawf.

Noder bod yn rhaid i chi lanlwytho tystysgrif eich cymhwyster lefel uchaf i'ch ffurflen gais er mwyn i'ch cais symud i'r cam nesaf.Os nad oes gennych dystysgrif ddilys, rhaid i chi gael gafael ar lythyr sy'n cadarnhau eich canlyniadau cyn dechrau arni yn y ganolfan asesu. Os byddwch yn ennill cymhwyster uwch yn ystod y broses recriwtio, sicrhewch eich bod yn anfon y dystysgrif atom cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu diwygio eich cais yn briodol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth a gallwch ddisgwyl rhagolygon gyrfa a buddiannau ardderchog.

Byddwch yn treulio eich chwe mis cyntaf yn dilyn rhaglen hyfforddi lle byddwch yn dysgu'r ddeddfwriaeth a'r prosesau perthnasol ochr yn ochr â sgiliau technegol megis Hyfforddiant Diogelwch Personol, Cymorth Cyntaf a systemau cyfrifiadurol yr Heddlu. Wedyn byddwch yn cael eich lleoli (gyda thiwtor sy'n gwnstabl i ddechrau) gyda thîm ymateb mewn lifrai gan weithio patrwm o sifftiau sy'n cylchdroi yn ystod y dydd (0700-1700), wedyn yn y prynhawn (1500-2300 neu tan 0300 ar ddydd Gwener / dydd Sadwrn) ac wedyn gyda'r nos (2200-0700) saith diwrnod yr wythnos wedi'u dilyn gan bedwar diwrnod gorffwys. Bydd hyn yn cynnwys Gwyliau Cyhoeddus.

Yn ystod eich cyfnod prawf o ddwy neu dair blynedd, bydd yn ofynnol i chi ddangos eich cymhwysedd gweithredol drwy ddelio ag amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau'r Heddlu. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ennill y cymhwyster gradd academaidd perthnasol mewn Plismona a gyflwynir gan Brifysgol bartner ddethol yr Heddlu (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) a fydd yn gofyn i chi gwblhau 280 awr o astudio y flwyddyn yn eich amser eich hun. 

Bydd hyn yn cyfateb, fwy neu lai, i un diwrnod gorffwys ym mhob set o bedwar. Mae'r rhaglen hon yn rhoi boddhad mawr ond mae'n heriol ac, er y bydd yr heddlu yn rhoi rhywfaint o amser dysgu a ddiogelir i chi, bydd angen i chi ymgymryd â chryn dipyn o astudio preifat.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau elfennau gweithredol ac academaidd y rhaglen yn llwyddiannus er mwyn iddynt gael eu cadw ar ôl eu cyfnod prawf. 

Bydd elfennau academaidd yn cynnwys arholiadau, aseiniadau a phrosiect ymchwil/traethawd hir.

Byddwn yn cynnal ein canolfan asesu ar Gorffennaf a Medi . Ceir yr holl wybodaeth am y broses ymgeisio ac asesu yma .

Bydd angen i bob ymgeisydd hefyd fodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu 2020.pdf a bennir yn genedlaethol.


Bydd yr holl ymgeiswyr yn ymgymryd â gwiriadau cymhwyster a fetio,  cliciwch yma https://www.policeeventsportal.co.uk/police-officer-recruitment-guidance-candidatesi gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Heddlu De Cymru yn annog unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ymuno fel y gallwn sicrhau cynrychiolydd gweithlu o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.


Oes gennych ddiddordeb ac a ydych yn barod i ymgeisio?

Bydd y broses ymgeisio yn mynd yn fyw am 09:00 o'r gloch ar 04/07/2022 ac yn cau am 12 canol dydd ar 25/07/22.  Noder y rhagwelir y bydd yr ymateb ar gyfer yr hysbyseb hon yn uchel ac mae Heddlu De Cymru yn cadw'r hawl i gau'n gynnar pan fyddwn yn derbyn digon o geisiadau. Dim ond ceisiadau wedi'u cwblhau a dderbynnir bryd hynny, felly dylai ymgeiswyr ystyried hyn, a chynghorir cwblhau'n gynnar a chyflwyno'n llawn.
 
Sylwch nad yw'r profion ar-lein yn gydnaws â dyfeisiau llaw e.e. tabled neu ffôn symudol felly mae'n rhaid eu cwblhau ar gyfrifiadur bwrdd gwaith/gliniadur. Sylwch hefyd mai dim ond unwaith y gallwn ailosod prawf. Fe'ch cynghorir hefyd i gofrestru a chwblhau'r broses ymgeisio ar yr un ddyfais er mwyn osgoi materion cydnawsedd.

Edrychwch ar y fideo amgaeedig Our Recruitment Process | Ein proses Recriwtio - YouTube cyn cyflwyno'r cais ar-lein. 

Sylwch, os ydych yn gwneud cais ac yn cael eich penodi drwy lwybr mynediad PCDA fel eich lefel uchaf o gymhwyster, nid ydych yn gymwys i drosglwyddo i'r llwybr DHEP os byddwch yn cael gradd ar ôl eich penodi.  Os byddwch yn cyflawni eich gradd cyn penodi, gallwch wneud cais i drosglwyddo'ch cais i'r bibell ymgeiswyr DHEP.

Rhaid i ymgeiswyr sydd angen addasiadau rhesymol ar gyfer y ganolfan asesu allu darparu tystiolaeth i gefnogi'r cais ar adeg y cais. Dylai ymgeiswyr sy'n holi am addasiadau rhesymol ychwanegol wneud hynny drwy'r tîm Recriwtio Adnoddau Dynol (e-bost fel isod).

 Bydd yn ofynnol i bob darpar swyddog heddlu gymryd rhan mewn Fetio Biometrig e.e., i ddarparu samplau o olion bysedd - cyfeiriwch at y canllawiau sydd ynghlwm.


Gwahoddir ymgeiswyr sy'n llwyddiannus ar y cam sifftio cymhwysedd i fynychu sesiwn prawf ffitrwydd, byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi yn nes at yr amser ond edrychwch ar y ddolen ganlynol mewn perthynas â'r safon genedlaethol:-

Prepare for the police fitness test | Join The Police (joiningthepolice.co.uk)

Mae Heddlu De Cymru yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ymgeiswyr sy'n mynychu'r ganolfan asesu a'r niferoedd derbyn dilynol yn unol â gofynion y sefydliad.

Sylwch fod y ganolfan asesu yn rhan o'r safonau recriwtio cenedlaethol a bennwyd gan y Coleg Plismona. Cyfeiriwch at ein gwefan i gael manylion llawn am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, meini prawf cymhwysedd, y broses ymgeisio ac ateb llawer o'r cwestiynau cyffredin sydd gennych.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i mewn i'r ddolen amgaeedig: -

https://recruit.college.police.uk/Officer/after-I-apply/Pages/Constables-Assessment-Centre.aspx

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni yn HR-Policeofficercampaigns@south-wales.police.uk  neu ffonio neu 01656 869225.

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.