11/11/25 15:00
Cydlynydd Prosiectau Technegol TGCh
Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru
Parhaol
Cyflog £39,813 - £45,147
Amdanom Ni: Heddlu De Cymru yw'r heddlu mwyaf yng Nghymru, yn gwasanaethu poblogaeth o tua 1.3 miliwn o bobl ar draws ardal o 2,117 milltir sgwâr. Rydym yn ymrwymedig i gadw ein cymunedau'n ddiogel, ac rydym yn dibynnu ar dechnoleg arloesol i gefnogi ein gweithrediadau. Fel Cydlynydd Prosiectau Technegol TGCh, byddwch yn chwarae rôl allweddol yn sicrhau bod ein seilwaith TGCh yn gweithio'n ddidrafferth ac yn rhoi cymorth technegol i'n staff. Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi'n fawr yn ein hadran TGCh â phrosiectau a chyfleoedd newydd cyffrous wedi'u hariannu gan fuddsoddiad sylweddol. Rydym yn mynd drwy gyfnod o dwf sylweddol a newid technolegol, felly does dim cyfle gwell na hyn wedi bod erioed i ymuno!
Y rôl
Bydd y Cydlynydd Prosiectau Technegol yn helpu'r Rheolwyr Prosiectau Technegol i ddarparu cymorth proffesiynol a rhagweithiol i amrywiaeth o brosiectau ac adolygiadau technegol mawr. Yn ogystal, byddwch yn rheoli eich prosiectau a'ch newidiadau llai eich hun. Byddwch yn cynnal cynlluniau prosiect, yn paratoi adroddiadau ac yn gwneud gwaith ymchwil, gan sicrhau bod cynnydd a chanlyniadau yn cael eu monitro'n effeithiol.
Cyfrifoldebau:
Gofynion:
Ble y byddwch wedi'ch lleoli:
Mae'r Cydlynydd Prosiectau Technegol TGCh yn gweithio yn y Swyddfa Rheoli Rhaglenni Technegol ac yn adrodd i'r Rheolwr Rhaglenni Technegol TGCh.
Mae'r buddiannau yn cynnwys:
Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Fel Heddlu, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strwythur cyffredinol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob rhan o Heddlu De Cymru: yn ein gweithlu ac yn y gwasanaethau a ddarparwn.
Mae Heddlu De Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn benderfynol o ddenu, cyflogi a chefnogi gweithlu sy'n cynrychioli'r gymdeithas amrywiol a wasanaethir ganddo.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd gwaith lle nad oes achosion o aflonyddu, bygwth, bwlio nac erlid.
Croesewir ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd cymorth ar gael i bob ymgeisydd ar gais.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Lance.Thomas@south-wales.police.uk
Noder: O ganlyniad i natur sensitif y gwaith a gyflawnir gan Heddlu De Cymru, bydd pob ymgeisydd yn ymgymryd â gwiriad cefndir cynhwysfawr fel rhan o'r broses recriwtio.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC
Sylwch, os ydych yn ymgeisydd mewnol ac yn destun ymchwiliad parhaus i PSD, efallai y bydd oedi cyn i'ch penodiad neu leoliad yn y rôl gael ei ohirio hyd nes y bydd canlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn agored yn cael ei hystyried fesul achos
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.