COFRESTRU DIDDORDEB MEWN SWYDDOGION CADW YN Y DDALFA

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu De Cymru
Swyddi Staff yr Heddlu yn y Dyfodol
Ledled yr Heddlu
Os ydych yn barod am yr her nesaf yn eich gyrfa neu os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau i ffynnu mewn rôl newydd, dylech achub ar y cyfleoedd ar gyfer Swyddogion Cadw yn y Ddalfa sydd wedi codi yn Heddlu De Cymru. 
Rydym wrthi’n recriwtio ar gyfer Swyddogion Cadw yn y Ddalfa yn ardal Heddlu De Cymru.  Byddwch wedi'ch lleoli yn un o'r pedair dalfa ym Mae Caerdydd, Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr neu Abertawe.
Er y bydd eich penodiad yn seiliedig ar leoliad swyddi gwag, rhagwelir y bydd angen staff ar ddalfa Bae Caerdydd a dalfa Abertawe. Fodd bynnag, uwch-dîm rheoli gwasanaeth y ddalfa fydd yn penderfynu ar eich penodiad terfynol, a all fod yn unrhyw un o'r pedair dalfa. 
Mae'r Swyddog Cadw yn y Ddalfa yn gyfrifol am helpu i gadw pobl a gedwir yn y ddalfa yn ddiogel, i ofalu amdanynt a'u llesiant a'u heiddo, yn unol â'r pwerau a nodir yn Neddf Diwygio'r Heddlu 2002, gan sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.
Chi fydd yn gyfrifol am garcharorion o'r adeg y byddant yn cyrraedd yr orsaf. Er mwyn cefnogi Rhingyll y Ddalfa, byddwch yn eu cofrestru, yn cofnodi eu holl eiddo, yn cymryd eu holion bysedd a ffotograffau ac yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ddiogel mewn cell. Yn ystod eu hamser yn y ddalfa, byddwch yn mynd â bwyd iddynt ac yn archwilio'r gell yn rheolaidd. Bydd hefyd galwadau ffôn i'w hateb, cyfreithwyr i ymdrin â nhw a phob math o bethau eraill i'w wneud. 
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i chi weithio yn ein dalfeydd dynamig. Byddwn yn meithrin eich sgiliau a'ch galluoedd, ac yn eich addysgu i ymdrin â phobl sydd wedi'u cadw yn nalfa'r heddlu mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol.
Gan fod y ddalfa yn fusnes 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus weithio patrwm sifft yn cwmpasu'r oriau busnes. Bydd hyn yn golygu gweithio sifftiau gyda'r nos ac ar y penwythnos yn unol â'r patrwm gweithio 12 awr, sef pedwar diwrnod yn gweithio a phedwar diwrnod i ffwrdd; dau ddiwrnod wedyn dwy noson a phedwar diwrnod i ffwrdd. 
Mae hon yn swydd heriol lle mae angen unigolion unigryw. Gall ymddygiad carcharorion fod yn heriol, yn ymfflamychol o bosibl, felly mae'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd â pharch, empathi a dealltwriaeth yn allweddol, yn ogystal â'r gallu i aros yn bwyllog ac o dan reolaeth. 
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfrifiadurol, sillafu a gramadeg da, yn ogystal â llygad craff, gan y byddwch yn cofnodi rhyngweithio'r carcharorion bob dydd ac yn llenwi ffurflenni.
Yn anad dim, bydd angen i chi allu cyfathrebu'n effeithiol â phobl o bob cefndir, y mae nifer ohonynt yn agored i niwed neu'n wrthdrawol. 
Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych swydd foddhaol iawn yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu cymunedau De Cymru.
Mae Heddlu De Cymru yn ymateb i'r heriau a wynebir yn sgil COVID-19, gan sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i'n cymunedau yn effeithiol. Gwnaed nifer o addasiadau a phrotocolau yn ein gwasanaeth er mwyn darparu ar gyfer ystyriaethau diogelwch penodol yn ystod y cyfnod hwn. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd y broses recriwtio a'r broses benodi ar gyfer y rôl hon yn unol ag arferion gwaith diogel rhag COVID-19.  
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, croesawn geisiadau gan bob person sy'n gymwys am y swydd. Fodd bynnag, gan fod ymgeiswyr o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael eu tangynrychioli o fewn yr Heddlu ar hyn o bryd, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr BAME yn enwedig.Os hoffech drafod y cyfleoedd ymhellach, y cymorth a gynigir, a'r ymgyrch recriwtio sydd i ddod, cysylltwch â'n Tîm Gweithle Cynrychioliadol drwy e-bostio Joinus@south-wales.pnn.police.uk.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.