Arweinydd Strategol - Craffu, Sicrwydd a Chydraddoldeb
29/11/22 12:00
Teitl Swydd: Arweinydd Strategol (Craffu, Sicrwydd a Chydraddoldeb)
Gradd: PO4/5 £42,597 - £48,048
Lleoliad: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
Yn atebol i: Prif Weithredwr
Oriau: 37
Cyfnod: Cyfnod Penodol o Ddwy Flynedd/Secondiad
Lefel Fetio Ofynnol: MVSC
Ar agor i: 15.11.2022 – 29.11.2022 12PM
Mae secondiad cyffrous neu gyfle tymor penodol wedi codi yn nhîm Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i arwain ar faterion sy'n gysylltiedig â Chraffu, Sicrwydd a Chydraddoldeb, byddwch yn darparu cyngor a chymorth proffesiynol, rhagweithiol ac effeithiol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Weithredwr er mwyn craffu ar weithgarwch yr heddlu at ddibenion effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a darparu sicrwydd ansawdd/sicrwydd i'r cyhoedd fel y nodir yn Neddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynghori, monitro cydymffurfiaeth a gwerthuso ymateb yr heddlu i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac am sicrhau bod y Comisiynydd a'r tîm yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar waith.
Bydd yr Arweinydd Strategol - Craffu, Sicrwydd a Chydraddoldeb yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen craffu gan sicrhau bod canlyniadau'r ymarferion yn llywio gweithgareddau craffu a sicrwydd. At hyn, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am hapsamplu gweithgarwch yr heddlu.
Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb o ran goruchwyliaeth strategol am Gynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd statudol y Comisiynydd a'i wirfoddolwyr.
Fel Rheolwr yn nhîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bydd gofyn i ddeiliad y rôl gyfrannu at y gwaith o reoli a datblygu'r tîm ehangach yn ogystal â chynrychioli uwch-reolwyr mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl y gofyn.
I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â'r Prif Weithredwr, Lee Jones ar Lee.jones6@south-wales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.