Cydlynydd Busnes (Cymru Gyfan)

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Swyddfa Comisiynyd Heddlu a Throsedd
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
PO45
£42,597 - £48,048
Llawn Amser
37
Parhaol
2

06/12/22 23:55

TEITL SWYDD: Cydlynydd Busnes (Cymru Gyfan)

GRADD: PO4/5 £42,597 - £48,048   

LLEOLIAD:  I'w gytuno (yn dibynnu ar yr ymgeisydd llwyddiannus gan fod y rôl yn cwmpasu Cymru Gyfan)

Bydd rhaid teithio rhywfaint/Ystyrir trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth

Yn atebol i:  Y Prif Weithredwr  

Oriau: 37 awr yr wythnos

Cyfnod: Parhaol

Lefel Fetio Ofynnol: Lefel MV/SC                                        

Ar agor i: 15.11.2022 – 06.12.2022 12PM

Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Plismona yng Nghymru. Bydd y Cydlynydd Busnes yn gyfrifol am gydlynu a rheoli Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, partneriaethau a chydweithio ar sail Cymru Gyfan ac ar draws y DU. Bydd deiliaid y swydd yn rhoi cyngor a chymorth o ansawdd uchel mewn perthynas â phob elfen o gydweithio, gan sicrhau gweithgaredd llywodraethu, craffu a chydymffurfiaeth/perfformiad.

Bydd y rôl hon yn sicrhau y cyflawnir cydymffurfiaeth statudol a chyfansoddiadol, gyda chymorth llwyodraethol ac ysgrifenyddol i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a'u huwch dimau.

Bydd y rôl hon yn helpu i sicrhau'r canlynol:

  • Gwelliannau o ran cydlynu a dulliau cyson o weithredu ledled Cymru.
  • Rheoli Blaenraglen Waith sy'n cefnogi'r Comisiynwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol mewn perthynas â gweithgarwch cydweithredol.
  • Hwyluso cynnydd ar gamau gweithredu y cytunwyd arnynt.
  • Cefnogi tystiolaeth o weithgarwch ar sail Cymru gyfan
  • Cefnogi tryloywder y broses o wneud penderfyniadau a chofnodi camau gweithredu ar draws fforymau llywodraethu allweddol ym maes Plismona yng Nghymru.
  • Cymorth penodol i'r Cadeirydd Plismona yng Nghymru mewn perthynas â'u cyfrifoldebau ychwnaegol.

Er y caiff y rôl ei chynnal gan Heddlu De Cymru, bydd hon yn rôl hybrid ac yn cwmpas Cymru gyfan, felly bydd y gallu i deithio ledled Cymru yn ofynnol. I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Prif Weithredwr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Lee Jones ar Lee.jones6@south-wales.police.uk

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.