Seiber Raddedig

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
SO1
£27,432
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
24
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae'n bleser gan Heddlu De Cymru lansio ein Rhaglen i Raddedigion 2023. Rydym yn chwilio am bobl ag amrywiaeth o wahanol sgiliau a phrofiadau sy'n arloesol, yn llawn cymhelliant ac yn uchelgeisiol. Yn anad dim, rydym yn chwilio am unigolion talentog sy'n awyddus i fod yn arweinwyr y dyfodol ac sydd am ymuno â'n tîm llwyddiannus.

Rydym yn chwilio am berson graddedig brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'r Uned Seiberdroseddu i roi cyngor a chymorth technegol i swyddogion sy'n rhan o'r gwaith o ymchwilio i droseddau digidol/seiber yn ardal gyfan Heddlu De Cymru yn bennaf, ond hefyd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Byddwch yn gweithio fel rhan o rwydwaith o ymchwilwyr gyda phartneriaid rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn canfod troseddwyr a'u dwyn o flaen eu gwell. Byddwch hefyd yn cefnogi aelodau eraill o'r tîm i gynllunio, datblygu a chyflwyno galluoedd datblygu meddalwedd o ran atal Seiberdrosedddau ac ymchwilio iddynt.
 
Mae ein Rhaglen i Raddedigion dan Hyfforddiant yn rhoi'r cyfle i chi feithrin profiad gwaith hanfodol mewn maes gwaith o'ch dewis, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster proffesiynol ac ychwanegu at y cymwysterau academaidd sydd gennych eisoes.

Byddwch hefyd yn elwa ar y cyfle i feithrin nifer o sgiliau eraill gan gynnwys sgiliau arwain, meddwl yn feirniadol a meithrin timau, a chymryd rhan yn rhaglenni hyfforddiant Heddlu De Cymru sydd eisoes ar waith.

Caiff unrhyw astudio proffesiynol ei ariannu'n llawn, a byddwch yn cael yr amser sydd ei angen i sicrhau bod modd i chi gwblhau astudio o'r fath.

Byddwch yn elwa ar rwydwaith o gefnogaeth ac anogaeth gan reolwyr llinell a fydd yn eich tywys drwy eich rôl ac astudiaethau proffesiynol ac a fydd yn penodi 'cyfaill' i gynorthwyo'r broses o ymgyfarwyddo â'ch rôl newydd a chynnig cefnogaeth barhaus drwy gydol y rhaglen. Gallwn eich sicrhau ein bod ni yr un mor frwdfrydig â chi ynglŷn â'ch datblygiadau.

Mae'r rhaglen yn dechrau fis Medi 2023 ac mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at radd neu gymwysterau cyfatebol sy'n ymwneud â maes arbenigol seiberdroseddau, neu wedi graddio o fewn tair blynedd. Mae'n rhaid i chi feddu ar wybodaeth am systemau gweithredu Microsoft Windows, OS X, iOS, LINUX ac Android, ac yn gallu cwblhau gwaith ymchwil ar-lein i nodi cyfleoedd ymchwilio.

 

There are numerous benefits to working for South Wales Police, from learning and development opportunities to schemes which aim to improve your lifestyle and wellbeing, as well as generous Local Government Pension Scheme / Police Pension Schemes, paid annual leave, flexible working and family friendly policies and many more, click here for more information.

 Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn – Gwnewch gais heddiw!

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.