Gweinyddu Busnes Safonau Proffesiynol Intern
21/04/23 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.
Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Intern ymuno â'n His-adran Safonau Proffesiynol am gyfnod o 12 mis lle y byddwch yn darparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd a chymorth prosiect ac yn cyflawni dyletswyddau ymchwil a fydd yn ymwneud yn bennaf â rheoli cofnodion cwynion ac ymddygiad byw.
Bydd y rôl gyffrous hon yn cynnig amrywiaeth eang o brofiad, yn bennaf wrth gefnogi'r gwaith o gynnal ymchwiliadau ledled y sefydliad, a diweddaru'r system rheoli achosion i adlewyrchu'r gwaith a wneir. Bydd y rôl hefyd yn cynnig cipolwg ar y broses o reoli ansawdd data, deall deddfwriaeth a'i rhoi ar waith, a rheoli perfformiad, ynghyd â gwaith ymchwil a thasgau perthnasol eraill.
Bydd yr interniaeth yn cychwyn ym mis Medi 2023 ac i fod yn gymwys byddwch yn astudio ar hyn o bryd am radd mewn Rheoli Busnes neu gyfwerth. Bydd angen i chi gael sgiliau TG rhagorol a gallu cynhyrchu adroddiadau cynhwysfawr, cynhwysfawr, rhesymegol a strwythuredig o ansawdd uchel, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.