Cynorthwyydd Gweithredol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Corfforaethol
Cymorth Gweithrediadol
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
SC34
£19452 - £23,406
Llawn Amser
37
Parhaol
2

05/03/21 15:00

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwyydd Gweithredol ymuno â Thîm Cymorth Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol. Rydym yn chwilio am unigolyn talentog a brwdfrydig i gefnogi'r Prif Swyddog Ariannol i gyflawni ei ddyletswyddau strategol yn effeithlon ac effeithiol ar gyfer portffolio amrywiol sy'n cynnwys: Cyllid Corfforaethol, Caffael, Ystadau, Fflyd, TGCh, Is-adran Gwasanaethau Digidol, cydweithio yn ogystal â Pholisi Cenedlaethol a rôl arwain allanol. Fodd bynnag, gellid gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi unrhyw un o bortffolios y Prif Swyddog yn ystod ei gyflogaeth.


Bydd gofyn i'r ymgeisydd reoli'r dyddiadur, paratoi ffeiliau, cadw cofnodion a chyflawni dyletswyddau gweinyddol cyffredinol fel rhan o'r rôl. Rhaid i chi allu rheoli blaenoriaethau croes mewn sefydliad prysur a dynamig. Byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i weithio'n bwyllog ac yn effeithiol dan bwysau. Hefyd, bydd yn rhaid i chi allu gweithio'n effeithiol fel rhan o'r tîm Cymorth Gweithredol er mwyn sicrhau y darperir gwasanaeth cyson i bob Prif Swyddog.

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud

cais am unrhyw rolau eraill.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon


Er mwyn trafod y cyfle hwn ymhellach, cysylltwch â Lisa Cloke ar 01656 869205 neu est 20205.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.