Gwella ansawdd bywyd yn ein cymunedau, wrth gynorthwyo datblygiad pobl ifanc drwy Wasanaeth Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu (CGH), yn unol â blaenoriaethau a gwerthoedd plismona'r sefydliad. Mae Cadetiaid Gwirfoddol HGC wedi'u cynllunio er mwyn darparu amgylchfyd diogel ar gyfer pobl ifanc, er mwyn iddyn nhw ddysgu fel unigolion, datblygu cysylltiadau cadarnhaol efo'r heddlu, a bod yn weithredol yn cynorthwyo'u cymuned. Eu nod ydy paratoi pobl ifanc ar gyfer eu dyfodol, drwy ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd amrywiol er mwyn datblygu a gwella sgiliau rhyngbersonol a hyder, a magu balchder drwy gynorthwyo plismona cymunedol. Eu bwriad ydy dangos ymroddiad i ddatblygu cyfleoedd i’r gymuned wirfoddoli yn y Gwasanaeth Heddlu. |